Trosolwg o'r Prosiect

Rydym yn falch o redeg pedwar prosiect sy'n archwilio potensial amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig (AARh) mewn ystod o gyd-destunau. Mae Prosiect Tech Tyfu yn cael ei ddarparu a'i reoli gan Menter Môn.

Peilot Tech Tyfu

Ein menter wreiddiol i fyd ffermio fertigol, roedd y brosiect parhaus hwn yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar dyfwyr i dderbyn blwyddyn o ddefnydd am ddim o un o’n hunedau ffermio fertigol. Cawsom geisiadau gan unigolion a busnesau fel ei gilydd, sydd ers hynny wedi llwyddo i sefydlu cadwyni cyflenwi ar gyfer eu bwyd ffres, lleol, a ffermir yn fertigol. Er mwyn galluogi’r tyfwyr i gyflawni eu hamcanion, rydym yn darparu gweminarau, gweithdai a chyngor arbenigol i gefnogi datblygiad sgiliau parhaus, ac i ddod o hyd i gadwyni cyflenwi newydd ar gyfer eu cynnyrch. 


Nod prosiect Peilot Tech Tyfu oedd rhoi cyfle i dyfwyr ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio ffermydd fertigol, gan osgoi costau cychwynnol sydd yn aml yn ormodol i fusnesau ac unigolion newydd. Yn y prosiect hwn mae ein tyfwyr wedi treialu amrywiaeth eang o gnydau, dulliau tyfu a deunyddiau, gan baratoi'r ffordd ar gyfer lansio ein prosiect Tech Tyfu Scale Up dilynol yng Ngwanwyn 2022. Derbyniodd Peilot Tech Tyfu arian gan Gronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru (RDF 2014-2020). 

Tech Tyfu Scale Up

Gan lansio yng ngwanwyn 2022, bydd ein prosiect Scale Up yn parhau â llwyddiannau prosiect Peilot Tech Tyfu. Bydd galwad agored yn gwahodd darpar gyfranogwyr i fynegi eu diddordeb mewn derbyn amrywiaeth o offer ffermio fertigol mewn ymgynghoriad â pheiriannydd dylunio i ddarparu atebion pwrpasol i ddiwallu anghenion ein tyfwyr. Bydd tyfwyr yn cael mynediad at gymorth arbenigol, datblygu sgiliau, a gweithdai i ehangu eu galluoedd ffermio fertigol a datblygu cadwyni cyflenwi ar gyfer eu cynnyrch. Cadwch lygad ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth i ddod ar sut i wneud cais. Derbyniodd Tech Tyfu Scale Up arian gan Gronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru (RDF 2014-2020).

Cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Established in 2021, the Tech Tyfu Twf project is pioneering vertical farming in secondary education on Anglesey, and aims to reach more schools across Wales in the future.

Delivering the new Curriculum for Wales.

 

Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn galluogi ysgolion uwchradd i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain gyda phwyslais ar ddysgu trawsgwricwlaidd, yn seiliedig ar brosiectau. Mae ffermio fertigol yn gyfle gwych i gyflwyno nodau’r cwricwlwm newydd mewn pynciau STEM fel bioleg, technoleg, a dylunio cynnyrch, ac mae’n amlygu cyfleoedd i ddisgyblion ddilyn cymwysterau galwedigaethol fel arlwyo ac adeiladu. Derbyniodd ein cyfranogwr peilot Ysgol Uwchradd Caergybi fferm fertigol a chyflenwad llawn o nwyddau traul gan Tech Tyfu yng ngwanwyn 2021, ynghyd â chymorth arbenigol gan staff y prosiect i ddylunio prosiect addysgol. Roedd myfyrwyr yn gallu tyfu eu cynnyrch eu hunain, datblygu cynnyrch bag salad a gwerthu i rieni, staff a pherchnogion busnesau lleol. Bu Nia Wyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Caergybi yn canmol profiad ei disgyblion gyda Tech Tyfu Twf: 

“Fel ysgol, rydym yn ffodus iawn i fod wedi derbyn fferm fertigol trwy gynllun Tech Tyfu Twf… Ar ôl ychydig o waith ymchwil, wedi derbyn yr uned, daethom i ddeall pwysigrwydd tyfu llysiau mewn ffordd gynaliadwy ac ecogyfeillgar. Roedd yr uned yn cael ei rhedeg gan grŵp o fechgyn Blwyddyn 11. Yn ogystal â thyfu llysiau iach a blasus, datblygodd y bechgyn sgiliau ar gyfer y gweithle gan gynnwys: 

 

  • Entrepreneuriaeth 
  • Osgoi problemau yn rhagweithiol,
  • Datrys Problemau,
  • Marchnata,
  • Gweithio fel tîm, 
  • Cyfathrebu effeithiol a chlir,
  • weithio i derfynau amser. 

… Mae arwydd ar Bont Menai yn dweud “Mon Mam Cymru”. Efallai, mewn blynyddoedd i ddod, y bydd y teitl hwn yr un mor berthnasol wrth inni ddatblygu’r defnydd o ffermydd fertigol.” 

Yn dilyn llwyddiant Ysgol Uwchradd Caergybi a diddordeb mawr gan athrawon ar draws yr ynys, lansiodd Tech Tyfu Twf mewn tair ysgol uwchradd arall ar Ynys Môn yn 2021. Mae staff y prosiect yn helpu i ddylunio a chyflwyno gwersi pwrpasol ar ffermio fertigol i bob cyfnod allweddol uwchradd, gyda phwyslais hyblyg yn dibynnu ar amcanion y cwricwlwm. Mae'r prosiect yn cynnig cyfle i ysgolion gynnwys myfyrwyr mewn prosiect bywyd go iawn, gan gyfuno dysgu academaidd, cyflawni tasgau ymarferol, datblygu sgiliau allweddol a thechnoleg o'r radd flaenaf. Ar hyn o bryd, mae prinder myfyrwyr yn symud i bynciau STEM, a nod y prosiect hwn yw annog myfyrwyr i anelu at feysydd STEM mewn addysg bellach a chyflogaeth, gan ddefnyddio cyd-destunau cyfredol fel newid hinsawdd, arloesi mewn busnes ac archwilio’r gofod i gadw dysgu’n gyffrous ac yn berthnasol i'n byd modern. Rydym wedi partneru ag Agxio, cwmni deallusrwydd artiffisial, i ddarparu technoleg synhwyro flaengar ac offeryn dadansoddi data sy’n seiliedig ar apiau i helpu ysgolion i gyflawni amcanion y Fframwaith Cymwyseddau Digidol a nodir yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. 

 

Ein nod yw ehangu'r prosiect hwn i gyflwyno manteision Tech Tyfu Twf i fwy o ysgolion yng Nghymru. Os hoffech fynegi diddordeb yn Tech Tyfu Twf ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni. 

 

Mae croeso i bob ysgol lawrlwytho ein deunyddiau dysgu ffermio fertigol rhad ac am ddim. Cliciwch yma i lawrlwytho ein Pecynnau Ysgol.  

 

Derbyniodd Tech Tyfu Twf arian o Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru. 

Hyb Arloesedd Tech Tyfu

Hyb Arloesedd Tech Tyfu yw’r cam mawr cyntaf er mwyn gwreiddio ffermio fertigol yn economi Cymru, ar ffurf cyfleuster ymchwil, datblygu ac addysg newydd ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, sy’n ymroddedig i ddatblygu ac arddangos arloesedd mewn ffermio fertigol. 


Yn cynnwys y dechnoleg gyntaf o'i fath yn y byd, bydd yr Hyb Arloesedd yn gartref i'r Dechneg Ffilm Maetholion Ddeuol cyntaf erioed(NFT) / systemau symudol llifo a gwagio, a ddyluniwyd gan bartneriaid prosiect Tech Tyfu, V-Farm. Bydd yr Hyb yn hwyluso tyfu arbenigol ar gyfer amrywiaeth o gnydau, gan gynnwys goleuadau pylu ar gyfer cylchredau twf addasedig a system dosio awtomatig addasedig ar gyfer dosbarthu maetholion. 


Mae’r Hyb Arloesedd yn ceisio creu ffyrdd o oresgyn rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig i dyfu cynnyrch ffres yng Ngogledd Cymru. Bydd yr Hyb yn arddangos technoleg ffermio fertigol ar raddfa fasnachol ac yn cynnig gofod, adnoddau ac addysg i dyfwyr newydd a phresennol i dreialu dulliau tyfu, treialu technoleg newydd, a phrofi cnydau newydd. Nod Tech Tyfu yw creu partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol ac academaidd i ddefnyddio'r gofod arloesol hwn i'w lawn botensial. 


Derbyniodd Hyb Arloesedd Tech Tyfu arian gan y Cynllun Cynyddu Arloesedd Busnes a Thwristiaeth (BITES)

cyWelsh