Tech Tyfu
Search for:

Food for thought

“Cnoi cil” gyda #TechTyfu “Food for thought” – Supporting Pupil Success with Vertical

Research has long shown the positive effect of school gardening programmes on pupils, and vertical farming has the potential to make it even easier to cultivate and grow plants in a classroom. https://aggie-horticulture.tamu.edu/syllabi/435/Articles/Klemmer.pdf

Vertical farming can teach pupils the basics of food production as well as developing Curriculum aspects within areas of learning and experience (AoLE) such as science and technology, mathematics and numeracy, languages, literacy and communication and health and wellbeing. It also has the added bonus that it can provide pupils with a supply of fresh microgreens, strawberries, lettuce or herbs every week!

Vertical Farming provides and excellent opportunity to support the four purposes of the new curriculum for Wales:
• Ambitious, capable learners who are ready to learn throughout their lives.

• Enterprising, creative contributors who are ready to play a full part in life and work.

• Ethical, informed citizens who are ready to be citizens of Wales and the world.

• Healthy, confident individuals who are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

6 reasons vertical farms score an A*

1. Engage pupils with hands on, project-based learning experiences, which are in line with the four purposes of the curriculum.

2. Grow with ease in a classroom, with a lower likelihood of crop diseases, due to growing hydroponically rather than using soil.

3. Promote healthy eating by growing and highlighting the benefits of various crops.

4. Grow indoor all year round rather than during the summer term.

5. Focus on sustainability and energy efficiency of vertical farming and raise pupil awareness of cutting-edge scientific technology.

6. Study marketing and economic trends by establishing routes to market and selling produce grown.

The Tech Tyfu Twf project is pioneering the use of vertical farming systems in schools, and project staff can provide support and materials to support the new curriculum for Wales.

Further information about Tech Tyfu Twf, which inludes a lesson pack for Progression Step 3 in Primary schools, can be found via this link:
https://techtyfu.com/tech-tyfu-twf/

Further information about the Tech Tyfu project can be found on https://techtyfu.com.

Growing Medium

“Cnoi cil” gyda #TechTyfu “Food for thought” Growing medium

 

Er mwyn cael y gorau o systemau Ffermio Fertigol sydd yn seiliedig ar hydroponeg, mae'n bwysig gwneud defnydd effeithlon o ofod ac adnoddau, fel dŵr, maetholion a chyfryngau tyfu.
Er enghraifft, mae angen i'r cyfrwng tyfu gynnig lle i'r gwreiddiau dyfu a gall effeithio ar economi dŵr y planhigyn a'i allu i ddefnyddio maetholion.

O ganlyniad, mae'n bwysig ystyried pa gyfrwng tyfu sy'n cynnig y perfformiad gorau yn dechnegol ac yn economaidd i'ch system a'r cnydau yr ydych yn bwriadu eu tyfu.

 

Dyma rai cwestiynau i'w hystyried:
Pa gyfrwng tyfu sy'n darparu'r canlyniadau gorau ar gyfer cnydau amrywiol?
Beth yw'r opsiynau sydd ar gael ar y farchnad gyda chostau cludiant rhesymol?
Beth yw costau’r cyfrwng tyfu fesul cilogram o gnwd a gynhyrchir?
A ellir ailgylchu'r cyfrwng tyfu?
Faint fydd angen addasu'r gwrtaith mewn gwahanol gyfrwng tyfu?

 

Mae Tech Tyfu wedi bod yn gweithio gyda dwy system Ffermio Fertigol ers dechrau 2020 - system “gorlifo a draenio” a system “techneg haen o faetholion” (NFT).

 

Mae ystyried gwead y cyfrwng tyfu ynghyd â'u gallu i ddal dŵr a maetholion wedi bod yn rhan allweddol o reoli'r ddwy system. Dyma ychydig o wybodaeth uniongyrchol ar berfformiad gwahanol gyfryngau, a fydd, gobeithio, yn fan cychwyn i dyfwyr wrth fynd ati i ddewis y cyfrwng tyfu gorau.

 

System “Gorlifo a Draenio”

Defnyddiwyd y systemau “gorlifo a draenio” i dyfu dail micro amrywiol fel egin pys, gwair gwenith, cennin a radis micro. Fe ddysgom nad oedd angen ychwanegu unrhyw faetholion at y dŵr ar gyfer dail micro sy'n cael eu cynaeafu fel rheol rhwng diwrnod 7 a diwrnod 16. Mae natur eisoes wedi gofalu am ofynion maethol eginblanhigion ifanc trwy ei ddarparu yn y storfa hadau. Mae amheuaeth hefyd a all eginblanhigion ifanc amsugno unrhyw faetholion o ddŵr yn eu dyddiau cynnar.

cyfrwng tyfu gyda’r canlyniadau gorau a gawsom yn 2020 ar gyfer dail micro oedd matiau ‘Growfelt Wool’ gan gwmni o'r enw Growfelt. Canfu tyfwyr fod ganddo allu amsugno a dal dŵr da, gyda chyfradd egino da a thwf bacteria is. Perfformiodd dewis amgen rhatach, ‘Growfelt Purple’ yn dda hefyd, ond perfformiodd y ‘Growfelt Wool’ yn well o ran amsugno a dal dŵr. Mae Growfelt yn darparu sampl 1m x 10m am £25.00. (Yn seiliedig ar ffigurau 2020.) https://growfelt.com/growing-media/

 

Er bod mat a wnaed 100% o gywarch yn rhydd o unrhyw ychwanegion ac yn gallu cael ei gompostio, ni pherfformiodd mat cywarch o’r Almaen gan Schneiderfilz cystal wrth egino. Roedd twf bacteria i’w weld yn llawer mwy amlwg arno na deunyddiau eraill a ddefnyddiwyd gennym. Gwelsom hefyd fod ffibrau unigol yn dueddol o wahanu oddi wrth y matiau gan achosi problemau tagu yn y systemau sy'n draenio pibellau. Gallai hyn greu problemau pellach i'r pwmp yn nes ymlaen pe byddem wedi ei adael am ragor o amser.

https://www.schneiderfilz.de/en/products/natural-fibers.html

Amlygodd astudiaeth Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru o'r enw 'Ystyriaeth ar gyfer cymhwyso Ffermio Fertigol' gan Dr William Stiles (2020) o IBERS, Prifysgol Aberystwyth (gweler https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/business/european-innovation-partnership-eip-wales risgl cnau coco fel cyfrwng tyfu rhagorol, yn ogystal â gwlân ynysu.

“In an experiment undertaken by Khander & Kotzen (2018), chicory (Cichorium intybus) and basil (Ocimum basilicum) were used as model organisms to test the relative differences between a range of substrate types. For both the basil and chicory plants, coconut fibre was shown to perform best, and rock wool was shown to be second best. However, some additional challenges were reported for both substrates, including the blocking of irrigation systems by the coconut fibre material and the lack of recyclability of rock wool, reducing sustainability.”

Yn yr un modd â chywarch, mae ffibr cnau coco yn cael ei ystyried yn ddewis ymarferol ar gyfer lleihau gwastraff o system dyfu. Ni ellir ei gynhyrchu yng Nghymru na hyd yn oed yn Ewrop hyd y gwyddom, sydd yn anffodus yn codi cwestiynau am effaith ei gludo dros bellteroedd maith. Mae gan risgl cnau coco briodweddau dal dŵr rhagorol ac mae ganddo briodweddau awyru da, sy'n arwain at wreiddiau cryfach ac iechyd da yn gyffredinol oherwydd ei lefel pH niwtral. Mae'r cyfrwng tyfu di-haint hwn yn rhydd o facteria a fydd yn atal planhigion rhag datblygu afiechydon, pla neu dyfiant ffwng.

Image 2 – Growfelt Purple used as a medium for growing micro leeks
Image 3 -Pea shoots growing on Growfelt Wool matting
Image 4 – Micro radish on hemp matting

 

Yn 2020, llwyddodd tyfwr arloesol Tech Tyfu i gynaeafau sawl cnwd o ferwr dŵr mewn system “gorlifo a draenio”. Roedd angen mwy o ddyfnder ar y cnwd i gynnwys mwy o ofod i’r gwreiddiau a gwell draeniad ac fe'i tyfwyd mewn basgedi bas o beli clai. Llwyddodd James Hooton yn Hooton’s Homegrown i dyfu ‘Berwr Dŵr Ynys Môn’ yn ei fferm fertigol gan ddefnyddio’r cyfrwng tyfu hwn.

Yn gyffredinol, mae cnydau sydd angen nifer o wythnosau neu fisoedd i dyfu yn perfformio'n well mewn cyfrwng o'r fath, gyda matiau'n addas ar gyfer cnydau tymor byr sy'n barod mewn dyddiau neu 2-3 wythnos.

 

System Techneg Haen o Faetholion (NFT) – Dail salad a mefus

Yn yr unedau Techneg Haen o Faetholion, mae tyfwyr arloesol Tech Tyfu wedi defnyddio ciwbiau neu blygiau tyfu gwlân ynysu. Mae gwlân ynysu yn dal dŵr ac aer sy'n annog gwreiddio a thyfu cyflym. Mae gwlân ynysu wedi'i nyddu'n fân a gellir darparu twll ym mhen uchaf y ciwbiau, sy'n ddelfrydol ar gyfer cychwyn hadau neu wreiddio toriadau.

Tyfwyd mefus a dail salad yn llwyddiannus yn y system NFT gan ddefnyddio gwlân ynysu, sydd ar gael gan gyflenwyr fel Hydrogarden (www.hydrogarden.com) a GroWell (www.growell.co.uk)

Grodan yw'r brand mwyaf blaenllaw ar gyfer cyfrwng tyfu gwlân ynysu. Gweler www.grodan.com www.grodan.com

 

Un o'r uchafbwyntiau yn 2020 ar gyfer Tech Tyfu oedd y treial a gynhaliwyd gan Goleg Glynllifon yn defnyddio plygiau gwlân amrwd yn eu system NFT.

Fe wnaeth y tîm yng Ngholeg Glynllifon lanhau a chardio’r cnu cyn mewnosod y plygiau tyfu mewn basgedi bach yn y sianeli tyfu NFT. Roedd y canlyniadau cychwynnol yn addawol iawn, gyda'r gwlân yn dal dŵr ac aer yn dda ar gyfer tyfiant planhigion. Mae'r ffotograff yn dangos gwreiddgyff mefus ifanc yn tyfu mewn system NFT ac wedi'i gefnogi gan y plwg gwlân. A allai hwn fod yn ddefnydd newydd arloesol sydd mawr ei angen ar gyfer gwlân lleol?

 

 

 

LLYFRYDDIAETH:
Khandaker, M., & Kotzen, B. (2018). The potential for combining living wall and vertical farming systems with aquaponics with special emphasis on substrates. Aquaculture research, 49(4), 1454-1468.

Respond to BREXIT with Vertical farming

Ymateb i Brexit trwy Ffermio’n Fertigol

Gall ffermio fertigol chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael â’r heriau sy'n wynebu economi wledig ôl-Brexit yn ôl y tîm sy’n gyfrifol am brosiect Tech Tyfu.


Wrth lansio eu hymgyrch recriwtio ddiweddaraf ar gyfer tyfwyr sydd â diddordeb mewn treialu uned gynhyrchu ffermio fertigol, rhannodd Dr Luke Tyler sy'n arwain y prosiect Tech Tyfu sut y gall y system dyfu arloesol ymateb i'r angen am dyfu yn fwy lleol.


“Rhan allweddol o brosiect Tech Tyfu yw hwyluso gwell perthnasoedd a dealltwriaeth ar draws y gadwyn gyflenwi cynnyrch ffres,” esboniodd. “Rydyn ni'n gwybod bod cogyddion a dosbarthwyr lleol eisiau prynu a defnyddio mwy o gynnyrch lleol, ac rydyn ni'n gwybod bod gennym ni dyfwyr eiddgar. Ein her yw dod â'r holl gysylltiadau hyn ynghyd i wneud i'r gadwyn weithio'n broffidiol."


“Yn wyneb heriau a chyfleoedd cyfredol Brexit, credwn fod ffermio fertigol yn cynnig ffordd i gynhyrchu ystod o gynnyrch ffres yn dibynadwy, yn economaidd ac i’r ansawdd a ddisgwylir gan gwsmeriaid.”


Mae Tech Tyfu yn brosiect peilot ffermio fertigol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn ac maent yn edrych i recriwtio tyfwyr am yr ail flwyddyn. Mae’n cynnig uned ffermio fertigol gyflawn i dyfwyr newydd, am ddim am hyd at flwyddyn, i roi cyfle i dyfwyr ddysgu am y dechnoleg ac i dreialu eu cyfleoedd marchnad eu hunain ar gyfer cnydau fel dail arbenigol, dail micro, egin pys, berwr y dŵr, mefus ac ystod o lysiau dwyreiniol.


“Mae ffermio fertigol yn rhan o’r ateb i dyfu mwy o’n bwyd ein hunain, gan gyfrannu at yr economi gylchol a lleihau ein milltiroedd bwyd,” esboniodd Luke.


“Rydyn ni’n amcangyfrif bod y farchnad ar gyfer egin pys yn werth tua £ 40-50k yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn unig,” nododd Luke. “A thrwy eu tyfu’n lleol, byddai tyfwr yn gallu cynnig ffresni diguro. Mae nifer o gogyddion lleol amlwg eisoes wedi gofyn ble y gallant brynu egin pys lleol.”


Llynedd, llwyddodd y tyfwr lleol James Hooton o Hooton’s Homegrown yn Brynsiencyn, Ynys Môn i ddefnyddio pecyn peilot Tech Tyfu i dyfu bagiau o ferwr dŵr a werthwyd yn ei siop fferm.


“Rydyn ni wedi bod yn defnyddio hydroponeg i dyfu cnydau ers blynyddoedd lawer, fel gyda’r mefus y byddwch chi'n eu gweld ar ein safle pigo eich hunain. Fodd bynnag, dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio system fferm fertigol. " meddai James Hooton.


“Mae llwyddiant ein ‘Berwr Dŵr Ynys Môn’ yn profi bod galw am gynnyrch ffres, lleol,” ychwanegodd. Mae Tech Tyfu yn chwilio am ddau dyfwr newydd ar gyfer 2022. Bydd pob ffermwr yn cael uned fferm fertigol, cefnogaeth dechnegol ac yn cael ymuno â rhaglen barhaus Tech Tyfu o weithdai a gweminarau.


Bydd digwyddiad Tech Tyfu sy’n dwyn y teitl ‘Dewch yn Ffermwr Fertigol yn 2021’, yn cael ei gynnal yn rhithiol ddydd Mercher, 17eg Chwefror, lle bydd tîm Tech Tyfu yn rhannu gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio mewn partneriaeth â’r prosiect. Bydd yn cynnwys cyflwyniad gan Chris Nelson, sylfaenydd, a chyd-gyfarwyddwr fferm fertigol enwog Llundain, ‘Growing Underground’ a Rheolwr Gyfarwyddwr GrowStack.


“Daeth GrowStack ynghyd yn 2016 pan sylweddolon ni fod y farchnad ffermio fertigol ar fin ffrwydro. Edrychaf ymlaen at rannu ein profiad o adeiladu fferm fertigol bwrpasol, danddaearol yn Llundain,” meddai Chris Nelson, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am y 40 mlynedd diwethaf.


Mae'r sesiwn rhithiol yn agored i bawb, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhaglen i fynychu a chofrestru trwy'r ddolen ganlynol o flaen llaw.


“Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn ffermio fertigol,” meddai Luke. “Ebostiwch fi ar E-bost:luke@mentermon.com,neu cysylltwch trwy ein tudalen www.techtyfu.com or connect via our Tech Tyfu Facebook page.”


Mae TechTyfu wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ionawr 2021 Datganiad i'r Wasg

Arloeswyr Tech Tyfu yn creu ffermydd fertigol ar gyfer cartrefi


Mae arloeswyr o Wynedd ac Ynys Môn wedi rhoi eu sgiliau peirianneg a'u creadigrwydd ar waith i greu systemau arloesol i bobl dyfu cynnyrch ffres eu hunain yn y cartref.
Gosodwyd yr her i ddatblygu systemau tyfu domestig arloesol gan brosiect Tech Tyfu Menter Môn, i annog diddordeb mewn tyfu hydroponig fel rhan o waith y prosiect yn cefnogi ffermio fertigol yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

 

Esboniodd Dr Luke Tyler, sy'n arwain y prosiect “dechreuodd y rhai a aeth i'r afael â'r her trwy gyflwyno eu syniad i sicrhau cefnogaeth ac arian tuag at brynu cydrannau."
“Fe wnaeth yr ‘Her Tech Tyfu’ annog arloeswyr lleol i ddatblygu eu cysyniadau ffermio fertigol eu hunain mewn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn cynhyrchu bwyd yn y cartref,” meddai Luke. “Mae wedi bod yn anhygoel gwylio’r arloeswyr yn creu systemau y gallai eraill eu creu i dyfu bwyd maethlon ffres yn eu cartrefi.”

 

Cymerodd Thorin Dhillon Peter (18) garddwr o Niwbwrch ran yn yr her dros y misoedd diwethaf.
“Roedd y system ffermio fertigol hydroponig a sefydlais yn seiliedig ar ddull Kratky, sy’n cynnwys cynnal planhigion i dyfu uwchben cronfa o ddŵr llawn maetholion,” esboniodd Thorin.
“Fe wnes i greu ffrâm bren a chynnwys potiau i ddal y planhigion.
Fe wnes i ystyried y bylchau rhwng y potiau, er mwyn gwneud y mwyaf o’r lle i’r gwreiddiau i gael y twf gorau,” meddai Thorin.
“Gan imi greu uned awyr agored, defnyddiais ffilm polyester Mylar hefyd er mwyn cuddio’r ffrâm ac atal unrhyw olau rhag cyrraedd gwreiddiau’r planhigion. Plannwyd y cnydau letys mewn ffibr coir a weithiodd yn dda iawn.”
“Gallaf weld y system hon yn gweithio’n dda i bobl dyfu eu dail salad eu hunain neu o bosibl i gynhyrchu mefus mewn lleoedd bach fel iardiau cefn.”
Arbrofodd Thorin, sy’n dyfwr greddfol, gyda porthiant maetholion ei hun o ddail comfrey a gwymon ar gyfer bwydo’r cnydau.


Derbyniodd John Storey (43) o Fangor gefnogaeth gan Tech Tyfu i greu ei uned hydroponig dan do ei hun. Yn dechnegydd yng Nghanolfan FabLab ac Arloesi Prifysgol Bangor, mae'n credu y gall defnyddio hydroponeg fod yn un ffordd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cynhyrchwyr a dosbarthwyr bwyd.
“Ar ôl bod â diddordeb mewn tyfu ers cryn amser, roedd y prosiect yn esgus perffaith i ddechrau creu uned hydroponig fy hun. Gyda Brexit ar y gorwel, roedd cael cynnyrch ffres wrth law yn apelio.”

Gellir olrhain ei daith trwy ei dudalen Instagram, ‘QuarterMetreFarm’.
“I started with a regular commercial shelving rack and installed LED lights. Adding Mylar reflectors also helped to keep the light in.” The unit carefully considers all aspects needed for a successful domestic vertical farming system, boasting an impressive lighting system, and is an ideal size to fit within most kitchens.
“Defnyddiais gydrannau sydd ar gael yn rhwydd i adeiladu’r uned, fel y gallai unrhyw un arall sy’n dymuno dilyn yr un llwybr ei ailadrodd yn hawdd,” rhannodd. “Roedd y gwaith electroneg yn weddol rwydd. Ymarferoldeb y plannu a’r tyfu oedd yr heriau newydd i mi.”
Mae tyfu'n hydroponig yn ffordd effeithiol o dyfu dan do pan nad oes llawer o le, gan gadw rheolaeth ar yr amodau i helpu'r cnydau i dyfu'n iach. Dangosodd Thorin a John ill dau y gellir ffermio fertigol ar raddfa fechan trwy gydol y flwyddyn.

 

“Mae Tech Tyfu yn arddel arloesi, ac yn ddiweddar rydym wedi gweithio gyda Choleg Glynllifon sydd hefyd yn arddangos syniadau cyffrous iawn,” meddai Luke. “Yn ddiweddar, mae'r tîm yn Nglynllifon wedi bod yn defnyddio gwlân wedi'i lanhau fel cyfrwng tyfu i gynnal cnydau mefus. Byddwn yn adrodd ymhellach ar y gwaith hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”


Mae cefnogaeth bellach ar gael i ragor o drigolion Gwynedd ac Ynys Môn i ymateb i her Tech Tyfu. Gweler www.techtyfu.cymru am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Luke Tyler, luke@mentermon.com
Bydd Tech Tyfu yn recriwtio tyfwyr newydd yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror i’r rhai sydd â diddordeb mewn treialu ffermydd micro fertigol y prosiect yn ystod 2021.


Mae TechTyfu wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.