Croeso i brosiect Tech Tyfu.

AMDANOM NI

Croeso i brosiect Tech Tyfu. Rydym yn rhaglen amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig (AARh) sy’n

Rydym yn rhaglen amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig (AARh) sy’n cael ei rhedeg gan Menter Môn, menter gymdeithasol ddi-elw sy’n darparu prosiectau ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Rydym yn defnyddio ffermio fertigol hydroponig ar draws ein prosiectau i archwilio’r potensial ar gyfer AARh mewn cadwyni cyflenwi bwyd ffres, addysg ac ymchwil. 

Gall ffermio fertigol helpu Cymru i addasu i heriau’r gadwyn gyflenwi, mae’n cynnig arallgyfeirio i fusnesau gwledig, ac mae ganddo’r potensial i ysbrydoli disgyblion ysgol i anelu at yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg ac arloesedd. Rydym yn gyffrous i archwilio a rhannu buddion y dechnoleg flaengar hon, ac i ddangos ei hygyrchedd i fusnesau, addysgwyr ac ymchwilwyr Cymru.

Gallwch ein dilyn ar Instagram, Facebook, Twitter ac Youtube, a pheidiwch ag anghofio edrych ar brosiectau eraill Menter Môn ar www.mentermon.com

cyWelsh